Glampio yn Eryri
Mwynhewch brofiad Glampio unigryw yma yn Eryri, Gogledd Cymru.
Mae ein tri Pod moethus wedi ei lleoli mewn cornel bach o goedwig yma ar y fferm sy’n cynnig golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri ac Arfordir Cambria.
Mae’r Podiau yn cynnig y gorau o’r ddau fyd, y rhyddhad o gampio mewn moethuswydd cartref. Mae bob Pod gyda cyfleusterau En-suite yn cynnwys toiled a cawod, cegin, man eistedd gyda Teledu smart. Mae gwresogydd tan llawr sydd yn eich cadw yn gynnes drwy’r flwyddyn, hefyd mae signal da o’r wi-fi. Mae’r addurn fodern wedi ei seilio a’r gefn gwlad a’r cymreictod o’n cwmpas. Gwlau dwbwl yn cynnwys duvets 100% gwlan BAAVET.
Mae gan bob Pod Twb Poeth preifat ei ofod ei hun gyda Pit/Tan/BBQ bwrdd a cadeiriau, I eistedd allan dan fwynhau synnau cefn gwlad ac edrych ar yr olygfeydd bendigedig tra’n crasu eich “marshmallows” ac edmygu clecian y tan.
Cyrraedd a Gadael
Cyrraedd: 4 yp
Gadael: 9:30 – 10 yb
Da ni yn derbyn arhcebion trwy’r flwyddyn.
Sylwer: gwaherddir ysmygu tu mewn i’r pod, neu yn y man tu allan.
Moel Hebog
Pod gyda Bunk a Twb Poeth
Yn cysgu 4 (2 oedolyn a 2 blentyn)
Mae'r Pod yma yn edrych drost gysgod mawreddog y Mynydd Moel Hebog, un o fynyddoedd nodedig Eryri.
Delfrydol I deulu neu cwpwl.
Gwely dwbwl gyda bunk
En-suite
Moel yr Ogof
Pod gyda Twb Poeth Yn cysgu 2
Mae'r Pod yma yn edrych dros fynydd Moel yr Ogof, sydd wedi ei enwi ar ol Ogof a gafodd ei ddefnyddio I guddio oddiwrth y Saeson gan y Tywysog Owain Glyndwr yn ol yn y flwyddyn 1415.
DOUBLE BED & SOFA BED
En-suite
Moel y Gest
Pod gyda Twb Poeth Yn cysgu 2 oedolyn
Mae'r Pod yma yn edrych dros y mynydd Moel y Gest, y crib garregog sy'n esgyn dros dref Porthmadog.
Gwely dwbwl
En-suite
Beth i'w ddisgwyl
Cyfleusterau'r Pod
- Pecyn croesawu
- Man allanol gyda bwrdd a chadeiriau, Pit Tan/BBQ
- Twb Poeth (Moel Hebog yn unig)
- Drws ffrynt gyda porch
- Gwresogydd tan llawr
- Lolfa fach gyda soffa a Teledu Smart
- WiFi
- Gwely dwbwl cyfforddus gyda duvet 100% gwlan cymreig yn cynnwys clustogau
- Blancedi cynnes i'r nosweithiau oer!
- Gwlau bunk (Moel Hebog yn unig) plant plis cofiwch eich sachau cysgu – mae'n rhan o'r hwyl!
- Lle i hongian dillad
- Cawod en-suite, sinc, toiled gyda rail tywel
- Toweli
- Cegin gyda sink belfast, microdon, hob, oergell/rhewgell, tecell, toaster, cafetiere, crochenwaith
- Larwm tan
Mae lle ar gael I barcio eich car ar gael mewn lle hwylus i'ch Pod.
Allanol
Mae pob Pod gydag estyniad tu allan sy'n rhoi gofod perffaith i chi fwynhau brechdan, eistedd a darllen neu Ii fwynhau'r awyr iach. Neu lle i chi sychu/wellis tywodlud neu gwlyb cyn i chi fynd i mewn!
Mapiau a Llyfrau
Yr ydym eisiau I chi gael y gorau o'n hardal, felly yr ydym wedi rhoi allan lyfr lleol Eryri a llyfrau cerdded arfordir Pen Llyn. Yr ydym yn hapus i'ch helpu gyda unrhyw anghenion teithio a rhannu ein gwybodaeth am yr ardal leol.
Cymdogion Blewog!
Yr ydym yn cynnig profiad hynod unigryw sy'n eich galluogi chi I fwynhau moethusrwydd eich llety tra yn cael cip olwg ar fywyd ar y fferm. Cewch gyfarch ein defaid, gwartheg , ieir a'n cwn defaid annwyl yn ystod eich arhosiad.
Yr ydym hefyd yn cynnig
Coed tan a priciau £10

