Logo Llwyn Mafon Isaf
Logo Llwyn Mafon Isaf

Amdanom Ni

Mae Llifon a Ffion i’ll dau yn dod o gefndiroedd amaethyddol, Ffion yn ferch I ffermwr a Llifon y 5ed cenhedlaeth I ffermio Llwyn Mafon Isaf.

Mae Guto eu mhab hefyd yn ffermio adref, y ddwy ferch Elliw ac Efa hefyd yn ymwneud gyda amaeth, mae yn y gwaed. Mae nhw I gyd yn angerddol am ffermio a chefn gwlad.

Yr ydym yn cysidro ein hunain yn lwcus iawn I fyw a gweithio ar y fferm, yng nghefn gwlad distaw, wedi ein hamgylchynu gydag anifeiliaid.

Pan yn aros ar y fferm, fe wnewch chi ein gweld yn gweithio yn y caeau, hel defaid, cneifio, gwneud gwait, codi waliau – mae yna wastad rhywbeth i’w wneud!

Mae’n hollol gyffredin i’n gweld yn hedfan yn ol ac ymlaen ar y beic quad gyda cwn yn eistedd ar y cefn!

Dilynwch ni ar Instagram

Argraffwyd o www.llwynmafonisaf.co.uk ar 03/10/2026 23:26:22.

Llwyn Mafon Isaf, Criccieth, Gwynedd LL52 0RE

Ffôn: 07503 192994 / 01766 530618
Ebost: llwynmafonisaf.co.uk