Yr Ardal
Mae Llwyn Mafon Isaf Glampio a Gwely a Brecwast wedi ei lleoli yn agos iawn I dref Criccieth yng Ngogledd Cymru.
Criccieth – tref lan môr brydferth ar Fae Ceredigion sy’n cael ei gwarchod gan gastell hanesyddol. Mae Cricieth yn cael ei adnabod fel ‘Perl Cymru’ oherwydd ei thraethau gwych a’i swyn traddodiadol Gymreig. Ymwelwch â siopau crefftau bychain, neu bwyta Pysgodyn a Sglodion wrth y traeth. Mae yna hefyd Muilti Golff sy’n cynnwys Pitch a Put, chwaraeon dŵr a padl fyrddio, Eisteddfa – Pysgodfa Pysgod Bras A Brillyth gyda Chaffi Ar Lân Y Llyn dim ond milltir lawr lôn!
Os ydych eisiau mynd am dro, yna ewch i Lwybyr Arfordir Cymru sy’n ymdroelli lawr i Ben Llŷn.
O draethau Porth Oer, Porth Towyn, a Porthdinllaen lle mae’r Dafarn Ty Coch enwog – y trydydd tafarn lan môr orau yn y byd – i enwi ond llond llaw o draethau!
Mae Porthmadog yn dref harbwr brysur sy’n eistedd ar aber yr afon Glaslyn a mwynhewch cildraethau hardd Borth y Gest. Yna ewch ar daith antur ar Reilffordd Ucheldir Cymru sy’n mynd a chi drwy ganol y diwydiant llechi a mynyddoedd Eryri i Gaernarfon.
Tafliad carreg i ffwrdd mae pentref Italianette hudolus Portmeirion gyda’i dreftadaeth pensaerniol a lleoliad godidog. Mwynhwech lletygarwch gorau Cymru mewn lleoliad gwbl wahanol.
Yna ewch ar wib i cael hyfen iâ yn Meddgelert. Heb os, pentref prydferthaf Eryri. Lle llawn chwedl, diwylliant a hanes, ond hefyd gyda digon a weithgareddau, llefydd cerdded a antur.
Gawllch wneud nofio gwyllt neu ymlacio wrth sawl llyn sy’n eistedd o dan mynydd uchaf enwog Yr Wyddfa. Gallwch ddringo i fyny i fwynhau golygfeydd anhygoel – neu archebwch eich trên yn fuan i fynd i’r top! Mae gennym gymaint o gopeaon dros 3,000 troedfedd i chi ddewis – Tryfan yn Nyffryn Ogwen sy’n destyn sawl stori a llun, i’r copa ychydig yn haws sef Moel Eilio gyda ei chamfa enwog lle gallwch weld holl fynyddoedd Eryri ar eu gorau.
Mae ein castelli yn enwog hefyd! Mae Castell Caernarfon yn un o’r castelli mwyaf adnabyddus a gorau o ran ansawdd cadwraeth yng Ngymru
Mae Gogledd Cymru yn adnabyddus am ei dirlun chwareli ac yn haeddiolol i gael lle ar restr UNESCO Etifeddiaeth y Byd. Mae dau safle penodol yn yml ein fferm sef Gorseddau a Chwareli Llechi Tywysog Cymru. Mae rheilffyrdd a ffynnon wdi eu lleoli yn ein cymoedd prydferth yma sef – Chwmystradllyn a Chwm Pennant.
Croeswch wedyn o’r tir mawr i Ynys Môn i ddianc i atyniadau hynafol poblogaidd, porthladdoedd hen a thlws, siamberi claddu a llu o amguddfeydd a galeriau.

















